Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
14 Rhagfyr 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Llywodraeth ddatganiad am effaith bwriad Llywodraeth y DU i leihau darpariaeth Swyddfeydd Post mewn ardaloedd gwledig?
I’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad heddiw ar yr ymchwiliad cyhoeddus i ffordd liniaru arfaethedig yr M4?
(5 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM6190 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes yr un aelwyd lle mae plant yn wynebu cael eu troi allan yng Nghymru.
(60 munud)
NDM6188 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.
2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir â thargedau mesuradwy ac amserlen glir i sicrhau gwelliant yn PISA 2018.
'Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr - y DU'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn):
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn credu bod hyn o ganlyniad i 16 mlynedd o bolisïau addysg annigonol Llafur.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.
Yn cydnabod bod yn rhaid rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth ym maes addysgu, a thegwch a lles ar gyfer dysgwyr er mwyn gwella safonau.
Gwelliant 3.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog y Llywodraeth i wneud diwygiadau i'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon.
I’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhagor o fanylion am y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, gwerth sawl biliwn o bunnoedd, a gyhoeddwyd heddiw?
(30 munud)
NDM6189
Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru)
Pam mae angen cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer
Cymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Ionawr 2017